Gwneud Enwebiad
Enwebu
Ydych chi wedi adolygu’r meini prawf cymhwysedd? Iawn, yna gadewch i ni fwrw ymlaen gyda’r enwebiad.
I wneud enwebiad yn Gymraeg, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen enwebu yn Word neu ddogfen debyg a’i hanfon atom. Bydd angen i chi gyflwyno dau lythyr o gefnogaeth hefyd.
Llythyrau o gefnogaeth
Bydd rhaid i chi gyflwyno dau lythyr o gefnogaeth wrth ddau berson ychwanegol sy’n adnabod y mudiad yn dda. Gan ei bod yn aml yn cymryd amser i gael gafael ar rhain, rydym yn argymell gofyn amdanyn nhw cyn gynted ag y gallwch.
Llythyrau o gefnogaeth
Rhaid i enwebwyr gyflwyno dau lythyr o gefnogaeth ar wahân wrth ddau berson ychwanegol sy’n adnabod y mudiad yn dda.
Ni ddylai llythyrau gael eu hysgrifennu gan wirfoddolwr, gweithiwr, ymddiriedolwr neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â rhedeg y grŵp. Mae llythyrau wrth noddwyr, er enghraifft, cefnogwr neu gyllidwr, yn dderbyniol, cyn belled nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â’r ffordd y caiff y grŵp ei reoli a’i weithredu.
Mae’r llythyrau yn chwarae rhan bwysig iawn yn y broses asesu. Rydyn ni’n chwilio am lythyrau sy’n dod â gwaith ac effaith y grŵp yn fyw, felly byddai llythyr wrth rywun sy’n adnabod gwaith y grŵp yn dda yn ddelfrydol.
Dylai ysgrifenwyr ddarparu manylion ffeithiol i gefnogi eu neges o gymeradwyaeth, gan fod hyn yn rhoi tystiolaeth bellach i aseswyr.
Dylai’r llythyrau hyn ddatgan y canlynol:
- Effaith y grŵp ar y gymuned leol
- Beth mae’r gwirfoddolwyr yn y grŵp yn ei wneud a pham eu bod nhw’n arbennig
- Perthynas y cefnogwr â’r grŵp, gan gynnwys y rheswm dros y gymeradwyaeth
Dim ond dau lythyr fydd yn cael eu hystyried.
Gallwch lawrlwytho fersiwn Gymraeg o’r ffurflen enwebu isod. Yna gallwch gopïo a gludo y cwestiynau i fformat Word neu ddogfen debyg a’i e-bostio gyda’r llythyrau o gefnogaeth at dîm KAVS yn kingsaward@dcms.gov.uk
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg o’r ffurflen enwebu
Sylwer, yn anffodus, nid oes gennym siaradwyr Cymraeg yn y tîm, ond os anfonwch chi
e-bost atom, byddwn yn gallu cysylltu â chi gyda chymorth cyfieithydd.
Yn gallu cwblhau’r ffurflen enwebu yn Saesneg?
Os ydych yn gallu cwblhau’r broses yn Saesneg, byddem yn eich annog i wneud hynny oherwydd gallwch fanteisio ar system enwebu ar-lein sy’n gallu gwirio a dilysu er mwyn sicrhau nad ydych yn anghofio unrhyw beth. Gweler canllawiau llawn ynglŷn â sut i enwebu yn Saesneg.